Cwynodd Ms A fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (“y Bwrdd Iechyd”) wedi methu ag ymchwilio ac ymateb i bob agwedd ar ei phryderon am y gofal a’r driniaeth a dderbyniodd ei mam, a bod yr ymateb i’w chŵyn yn cynnwys gwallau. Dywedodd Ms A, yn groes i ymateb y Bwrdd Iechyd i’w chŵyn, nad oedd wedi cael cyfle i gadarnhau’r rhestr o gwestiynau a luniwyd gan y Bwrdd Iechyd cyn iddynt gael eu cyflwyno ar gyfer ymchwiliad. Roedd Ms A yn anhapus â rhai o’r cwestiynau yr ymchwiliwyd iddynt oherwydd eu bod yn wahanol i’w chŵyn wreiddiol.
Penderfynodd yr Ombwdsmon, er bod y Bwrdd Iechyd wedi dweud bod y cwestiynau wedi eu cytuno’n llafar â Ms A, heb i gopi ysgrifenedig o’r cwestiynau fod wedi’i roi iddi, nad oedd tystiolaeth bendant ei bod wedi cytuno i’r cwestiynau terfynol a gyflwynwyd i’w hymchwilio.
Penderfynodd yr Ombwdsmon ofyn i’r Bwrdd Iechyd a gytunodd i ymddiheuro wrth Ms A am beidio â rhoi cyfle iddi gadarnhau’r cwestiynau terfynol yn ysgrifenedig, atgoffa’r staff perthnasol o bwysigrwydd cadarnhau’r cwyn / cwestiynau’n ysgrifenedig gyda’r sawl sy’n cwyno cyn eu cyflwyno i gael eu hymchwilio, a rhoi cyfle i Ms A gadarnhau’n ysgrifenedig y pryderon sydd heb gael sylw o fewn 20 diwrnod gwaith. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i roi ymateb cwyn i’r pryderon y sefydlwyd na chawsant sylw o fewn tri mis.