Dyddiad yr Adroddiad

10/19/2021

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Pwnc

Eraill

Cyfeirnod Achos

202103367

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms X fod brechiad wedi’i roi gan ddarparwr annibynnol yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe (“y Bwrdd Iechyd”) wedi achosi poen a chwydd iddi ar ôl cael ei weinyddu’n anghywir, gan arwain at SIRVA (anaf i’r ysgwydd yn gysylltiedig â rhoi brechiad).
I ddechrau roedd y Bwrdd Iechyd wedi trefnu sgan MRI o ysgwydd Ms X ond roedd hwn wedi’i ganslo. Roedd yn golygu nad oedd ei chŵyn, a’i symptomau parhaus, wedi cael eu hymchwilio’n iawn.
Cytunodd y Bwrdd Iechyd felly i wneud y canlynol er mwyn setlo cwyn Ms X:
· Rhoddodd y Bwrdd Iechyd Ms X ar y rhestr frys i gael sgan MRI o’i hysgwydd er mwyn penderfynu a oedd y boen yn gysylltiedig â’r brechiad.
· Ar sail canfyddiadau’r sgan MRI, bydd y Bwrdd Iechyd yn adolygu’r ymchwiliad a chanlyniad y cwyn gwreiddiol am y brechiad gan y darparwr annibynnol. Bydd yn rhoi ymateb ysgrifenedig ffurfiol i Ms X yn egluro canlyniad hyn iddi ac a oes unrhyw newid mewn canlyniad wedi bod yn dilyn ei chŵyn. Bydd yn gwneud hyn o fewn 6 wythnos i ddyddiad y llythyr hwn.