Dyddiad yr Adroddiad

12/10/2021

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202103463

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X am y gofal a’r driniaeth a dderbyniodd ei wraig gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (“y Bwrdd Iechyd”). Roedd ymchwiliad y Bwrdd Iechyd yn cynnwys adolygu’r nodiadau oncoleg a siarad â staff a fu’n rhan o’r gofal a roddwyd i’w wraig. Fodd bynnag, nid oedd wedi gallu gweld cofnodion meddygol ei wraig cyn paratoi ei ymateb. Cwynodd Mr X i’r Ombwdsmon ei fod yn anhapus ag ymateb y Bwrdd Iechyd.

Ar ôl trafod gyda’r Ombwdsmon, cadarnhaodd y Bwrdd Iechyd ei fod wedi dod o hyd i’r cofnodion meddygol wedyn. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i roi ymateb ysgrifenedig pellach i Mr X o fewn 30 diwrnod gwaith i benderfyniad yr Ombwdsmon.