Dyddiad yr Adroddiad

18/10/2021

Achos yn Erbyn

Cyngor Caerdydd

Pwnc

Cynnal a chadw a thrwsio (gan gynnwys lleithder/ gwelliannau a newidiadau ee gwres trwy'r tŷ. Ffenestri dwbl)

Cyfeirnod Achos

202103888

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms A fod Cyngor Caerdydd (“y Cyngor”) wedi methu â chynnal a chadw’r fflat lle’r oedd yn byw. Dywedodd fod peth gwaith wedi’i wneud dros y flwyddyn ddiwethaf ond bod problemau o hyd oedd angen sylw pellach. Roedd Ms A yn anhapus â’r ymateb ysgrifenedig a dderbyniodd gan y Cyngor.

Y materion oedd heb gael sylw oedd:
1) Roedd craciau yn y nenfwd a dŵr yn gollwng yn y gegin a’r ystafell ymolchi. Mae gan loriau’r fflat graciau ynddynt gan fynd yn wlyb pan fydd yn dywydd garw, yn enwedig yn ystod y gaeaf.
2) Roedd hefyd yn bryderus bod gan rai o’i dodrefn a’i dillad lwydni arnynt a’i bod wedi gorfod cael gwared arnynt neu eu golchi. Dywedodd na allai ddangos tystiolaeth i gadarnhau hyn.
3) Nid oedd y fflat wedi cael ei haddurno ar ôl y gwaith a wnaed gan y Cyngor yn ddiweddar i ddatrys y problemau eraill y cwynodd amdanynt.

Casglodd yr Ombwdsmon fod y Cyngor wedi gwneud peth gwaith trwsio i’r fflat yn y flwyddyn ddiwethaf ac wedi archwilio’r fflat yn ddiweddar, gan benderfynu bod y diffygion dan sylw’n rhai addurnol eu natur. Cyfrifoldeb y tenant yw materion addurno, o dan gytundeb tenantiaeth y Cyngor.
Fodd bynnag, casglodd yr Ombwdsmon ei bod yn ymddangos nad oedd y Cyngor wedi archwilio’r fflat yn ystod y gaeaf, pryd y dywedodd Ms A fod y problemau ar eu gwaethaf.
Cysylltwyd â’r Cyngor a chytunodd i ddatrys y mater yn wirfoddol a chynnar drwy:
1) Ysgrifennu llythyr at Ms A yn cynnig apwyntiad iddi pryd y byddai aelod staff cymwys yn dod i archwilio cyflwr ei chartref yn ystod yr wythnos yn dechrau 29 Tachwedd 2021.

2) Rhoi adroddiad ysgrifenedig iddi’n dilyn yr archwiliad, yn rhestru unrhyw gamau i’w cymryd pe bai unrhyw ddiffygion yn cael eu darganfod sy’n gyfrifoldeb i’r Cyngor. Dylid rhoi’r adroddiad iddi o fewn 14 diwrnod gwaith i’r ymweliad archwilio.

Dylid anfon llythyr gwreiddiol y Cyngor yn cynnig apwyntiad at yr achwynydd o fewn 14 diwrnod i ddyddiad y llythyr penderfyniad hwn.