Cwynodd Ms A am broblemau cynnal a chadw yn ei chartref. Dywedodd fod contractwyr wedi ymweld â’i heiddo ac wedi rhoi gwybod iddi fod rhai o’r problemau hefyd yn effeithio ar breswylwyr eraill ar y stad.
Casglodd yr Ombwdsmon fod Ms A wedi cyflwyno cwyn flaenorol i’w swyddfa oedd wedi’i chau ar y sail bod y Gymdeithas Dai wedi ei hysbysu mai Ms A oedd ar fai am rai o’r problemau cynnal a chadw a bod eraill ar y gweill i gael sylw. Roedd Ms A yna wedi cyflwyno tystiolaeth newydd i’r Ombwdsmon yn ei hysbysu bod contractwyr wedi ymweld â’i heiddo’n dilyn llythyr penderfyniad yr Ombwdsmon ac yn cadarnhau nad ei bai hi oedd y problemau cynnal a chadw.
Penderfynodd yr Ombwdsmon ofyn i’r Gymdeithas Dai a gytunodd, o fewn 20 diwrnod gwaith, i drefnu cyfarfod, i’w gofnodi’n briodol, rhwng y contractwyr perthnasol a thîm datblygu Linc Cymru er mwyn sefydlu pa broblemau cynnal a chadw sydd dal heb gael sylw a phwy sy’n gyfrifol am eu cywiro, ynghyd ag amserlen ar gyfer cywiro unrhyw broblemau sydd dal heb gael sylw. Ar ôl y cyfarfod, byddai ymateb manwl ar-y-cyd yn cofnodi’r canlyniad yn cael ei roi i Ms Turner, ac os oedd hynny’n briodol byddai iawndal hefyd yn cael ei dalu iddi i gydnabod ei hamser a’i thrafferth yn gwneud ei chŵyn.