Mae cwyn Mrs X yn ymwneud â’r gofal a’r driniaeth a dderbyniodd ei diweddar ŵr, Mr X, gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn ystod ei gyfnodau yn Ysbyty Glan Clwyd (“yr Ysbyty Cyntaf”) ac Ysbyty Llandudno (“yr Ail Ysbyty”) ddechrau 2020. Yn benodol, cwynodd na wnaeth y Bwrdd Iechyd fonitro ei gŵr yn iawn ar ôl iddo dderbyn morffin yn yr Adran Achosion Brys, ei fod wedi methu ag adnabod neu drin rhwymedd parhaus ei gŵr a’i fod wedi methu â chynnal fflworosgopi bariwm yn brydlon ar ffurf llyncu a fideo. Roedd Mrs X hefyd yn bryderus bod y methiannau yn y gofal a’r driniaeth a dderbyniodd ei gŵr, gan gynnwys methiant i gydnabod bod ei gyflwr yn gwaethygu’n gyffredinol, o bosib wedi achosi, neu wedi cyfrannu at y gwaedu ar yr ymennydd yn hwyrach.
Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad ei fod yn briodol rhoi morffin i Mr X a bod y pwl byr, anymatebol a brofodd yn fuan wedyn (na ellid bod wedi ei ragweld ac a oedd yn ymddangos yn anochel) wedi’i nodi’n gyflym a chymerwyd y camau priodol wedyn i’w drin. Daeth i’r casgliad hefyd, o ystyried na fyddai fflworosgopi bariwm ar ffurf llyncu a fideo yn debygol o fod wedi gwneud unrhyw wahaniaeth sylweddol i reoli problemau llyncu hirdymor Mr X, ac nad oedd hyd yr amser rhwng asesu Mr X ar 2 Chwefror a’r profion yn cael eu trefnu ar gyfer 10 Chwefror yn afresymol. I gloi, canfu’r ymchwiliad fod hanes meddygol Mr X o glefyd y rhydweli yn ffactor rhagdueddu o ran y gwaedu a brofodd yn anffodus. Ni wnaeth y gofal a’r driniaeth a dderbyniodd Mr X yn ystod ei gyfnod yno, achosi’r gwaedu mewn unrhyw ffordd na chyfrannu ato. O ganlyniad, ni chadarnhaodd yr Ombwdsmon y cwynion hyn. Serch hynny, canfu’r Ombwdsmon hefyd na chafwyd unrhyw dystiolaeth o fewn y cofnodion o unrhyw werthusiad i weld os oedd y carthydd a ragnodwyd i Mr X yn ystod ei gyfnod cyntaf yn yr ysbyty yn effeithiol. Dywedodd Mrs X hefyd y bu’n rhaid i’w gŵr wacau ei goluddion ar ôl iddo gael ei ryddhau o’r Ail Ysbyty. Yng ngoleuni’r ffactorau hyn, daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad na chafodd rhwymedd parhaus Mr X ei adnabod a’i drin yn iawn cyn ei ryddhau i fynd adref, a chadarnhawyd y gŵyn.
Argymhellodd yr Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd yn ymddiheuro i Mrs X, o fewn 1 mis, ac yn atgoffa’r holl staff perthnasol o bwysigrwydd gwerthuso a dogfennu effeithiolrwydd meddyginiaethau a ragnodwyd (fel carthyddion byrdymor) yn ystod y cyfnod y mae cleifion mewnol yn ei dreulio yn yr ysbyty. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i weithredu’r argymhellion.