Cwynodd Miss X ei bod yn anhapus gydag ymateb cyntaf y Cyngor i gŵyn am faterion gwasanaethau cymdeithasol ac wedi gofyn i’w uwchraddio i Gam 2 o Weithdrefn Gwynion y Gwasanaethau Cymdeithasol. Serch hynny, ar ôl sawl wythnos, nid chafodd ateb nac unrhyw arwydd bod y mater wedi symud ymlaen i fod yn ymchwiliad, fel y gofynnodd.
Roedd yr Ombwdsmon yn bryderus ynglŷn â’r hyn a ddywedodd Miss X o gofio bod ymchwiliad Cam 2 yn hawl statudol, felly gofynnodd i’r Cyngor am wybodaeth a sylwadau. Datgelodd y rhain bod cais Miss X heb ei weithredu, ac roedd y Cyngor yn ymddiheuro am hynny. Cytunodd hefyd i gynnal y camau canlynol i ddatrys y mater (o fewn 1 mis), a oedd ym marn yr Ombwdsmon yn rhesymol fel ffordd arall o ymchwilio i gŵyn Miss K:
a) Symud i ymchwiliad Cam 2 drwy benodi Ymchwilydd Annibynnol i’w gynnal o fewn un mis
b) Yn ogystal â’r ymddiheuriad sydd eisoes wedi’i roi am yr oedi wrth symud yr ymchwiliad Cam 2 yn ei flaen, bod y Cyngor yn cynnig iawndal o £250 am yr anghyfleustra a’r amser o orfod mynd ar drywydd ei chŵyn.