Dyddiad yr Adroddiad

24/11/2021

Achos yn Erbyn

Cyngor Bro Morgannwg

Pwnc

Anghydfodau cymydog ac ymddygiad gwrthgymdeithasol

Cyfeirnod Achos

202104656

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs A fod Cyd-wasanaethau Rheoliadol Cyngor Bro Morgannwg
(“y Cyngor”) wedi methu â gosod hysbysiad atal sŵn ar gymydog o ganlyniad i gŵyn a wnaeth. Nododd hefyd ei bod yn credu bod y swyddog wedi dangos rhagfarn yn ei herbyn hi a’i chymydog arall yn ystod ei ymchwiliad.

Canfu asesiad o’r wybodaeth a oedd ar gael i’r Ombwdsmon ei bod yn amlwg bod diffyg ymddiriedaeth a chyfathrebu rhwng y swyddog ymchwilio a Mrs A. Dangosodd Mrs A hefyd ei hanfodlonrwydd gyda goruchwylwyr y swyddog yn ystod proses gwynion y Cyngor.

Mae’n debyg bod y Cyngor wedi bod yn gweithio gyda’r cymydog a oedd yn achosi’r diflastod sŵn a’i frawd i gynnal gwaith i leihau achos y sŵn. Roedd y Cyngor wedi cynnig gosod dyfais monitro sŵn ers i frawd y cymydog gynnal rhywfaint o waith i liniaru’r broblem sŵn. Teimlwyd felly nad oedd hi’n glir a oedd ymchwiliad wedi’i gwblhau’n llawn.

Mae’r Ombwdsmon yn gyfyngedig o ran sut gall ymyrryd mewn unrhyw benderfyniad a wneir drwy ddefnyddio crebwyll broffesiynol gan gorff cyhoeddus o dan ei awdurdodaeth.

Felly, cysylltodd â’r Cyngor a chytunodd i wneud y canlynol:

1) Cysylltu â’r achwynydd ar y ffôn o fewn 10 diwrnod gwaith o’r llythyr hwn a chynnig apwyntiad iddi i siarad â swyddog gwahanol yn y Gwasanaeth Diflastod Sŵn er mwyn dod â’r ymchwiliad cyfredol i’w chŵyn i ben.

2) Ysgrifennu llythyr at yr achwynydd yn rhoi penderfyniad ar ganlyniad ei ymchwiliad o fewn 30 diwrnod gwaith i ddyddiad y llythyr penderfyniad hwn.

Mae’r Ombwdsmon o’r farn bod hwn yn ateb gwirfoddol cynnar priodol i’r gŵyn hon.