Cwynodd Mrs X fod Cymdeithas Tai Unedig Cymru (“y Gymdeithas”) wedi methu â chynnal gwaith atgyweirio i’w gardd anniogel am 3 blynedd. Cwynodd hefyd am y wybodaeth anghywir a roddwyd iddi ynglŷn â bodolaeth ymwadiad ac anghytundeb ynglŷn â chyfrifoldeb am y gwaith atgyweirio i’r ardd. I gloi, cwynodd Mrs X am gyfle a gollwyd i symud cartref oherwydd materion iechyd a diogelwch gyda’i gardd.
Penderfynodd yr Ombwdsmon y dylai’r Cyngor roi ymateb ysgrifenedig pellach i Mrs X (o fewn 3 wythnos), i roi ymddiheuriad ac eglurhad am yr oedi wrth wneud y gwaith adfer. Bydd y Cyngor hefyd yn cynnig iawndal diwygiedig o £250 am yr oedi hwnnw. Bydd hefyd yn cynnig cymorth i Mrs X gydag unrhyw Gyd-gyfnewidfa Dai i gynnwys cyflymu archwiliad o’r eiddo.
Ystyriodd yr Ombwdsmon fod hyn yn benderfyniad priodol i’r gŵyn yn hytrach na chynnal archwiliad.