Cwynodd Mr B, yn dilyn derbyn diagnosis o bolyps yn ei goluddyn ym mis Ionawr 2020, fod y Bwrdd Iechyd wedi methu â chymryd y camau priodol i roi triniaeth iddo o fewn amser rhesymol ac wedi methu â’i ddiweddaru ynghylch effaith pandemig Covid-19 ar allu’r Bwrdd Iechyd i ddarparu gofal iddo.
Casglodd yr ymchwiliad fod Mr B wedi aros tri mis o’r adeg y cafodd ei atgyfeirio gan ei feddyg teulu tan i atgyfeiriad i dderbyn triniaeth bendant gael ei wneud, a chwe mis arall cyn dechrau triniaeth, oedd yn amhriodol ac afresymol. Casglodd pe bai wedi derbyn triniaeth yn gynt, na fyddai angen i Mr B fod wedi derbyn llawdriniaeth sylweddol ac ymwthiol. Roedd yr ansicrwydd a’r cyfle oedd efallai wedi’i golli’n anghyfiawnder sylweddol i Mr B. Casglodd yr ymchwiliad hefyd fod y Bwrdd Iechyd wedi methu â diweddaru Mr B ar ei allu i ddarparu gofal iddo oherwydd effaith pandemig Covid-19. Achosodd hyn straen a phoen meddwl ychwanegol i Mr B ynghylch ei gyflwr; arhosodd yn ansicr a oedd ganddo ganser neu beidio na sut yr oedd y clefyd efallai’n datblygu yn y cyfamser. Roedd hyn yn anghyfiawnder sylweddol iddo.
Cytunodd y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro wrth Mr B a chynnig talu iawndal o £1,000 i gydnabod y methiannau clinigol a oedd, at ei gilydd, wedi achosi canlyniadau iddo, a thalu £500 i gydnabod y methiant i ddarparu gwybodaeth briodol iddo. Cytunodd hefyd i atgoffa’r staff perthnasol o bwysigrwydd cyfathrebu da a chadw cofnodion priodol. Cytunodd y Bwrdd Iechyd hefyd i adolygu’r broses dracio a chadw cofnodion ar gyfer cleifion brys gydag amheuaeth o ganser, ac adolygu’r holl achosion brys gydag amheuaeth o ganser yn y Gwasanaeth Endosgopi a fu’n aros dros yr un cyfnod, rhoi sylw i unrhyw ddiffygion gofal tebyg a sicrhau bod pob claf yn derbyn blaenoriaeth glinigol briodol.