Cwynodd Mrs S am y gofal a’r driniaeth a dderbyniodd ei diweddar dad, Mr P, gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Yn benodol, cwynodd fod y Bwrdd Iechyd wedi methu â rheoli clefyd cronig yr arennau (“CKD”) Mr P yn briodol rhwng Ionawr 2017 a Chwefror 2018 a bod hyn wedi cael effaith andwyol ar ei iechyd. Casglodd ymchwiliad yr Ombwdsmon fod ystyriaeth a rheolaeth y Bwrdd Iechyd o glefyd CKD Mr P dros y cyfnod hwn o fewn yr hyn a ystyriwyd i fod yn ymarfer clinigol derbyniol. Casglodd fod clinigwyr y Bwrdd Iechyd wedi ystyried, yn briodol, rôl y CKD yn ei drafferthion cronni hylif (gormod o hylif yn cronni yn y corff) a dŵr ar yr ysgyfaint (gormod o hylif yn hel rhwng y pilenni o gwmpas yr ysgyfaint) ac wedi darparu triniaeth a monitro priodol iddo. Casglodd yr ymchwiliad hefyd na fu’r ffaith na chafodd Mr P ei atgyfeirio at arbenigwr arennau yn fethiant yn ei ofal, oherwydd nad oedd atgyfeiriad yn glinigol angenrheidiol. Am y rhesymau hyn, ni dderbyniodd yr Ombwdsmon y gŵyn.