Cwynodd Mr B am y gofal bydwreigiaeth a dderbyniodd ei bartner, Ms C, gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe (“y Bwrdd Iechyd”). Yn benodol, cwynodd Mr B nad oedd y bwriad i atgyfeirio Ms C at JIG-SO (gwasanaeth a sefydlwyd gan y Bwrdd Iechyd a’r Awdurdod Lleol i ddarparu cymorth bydwreigiaeth) yn briodol.
Casglodd yr Ombwdsmon fod Ms C wedi derbyn triniaeth a gofal bydwreigiaeth priodol. Yn unol â’r canllawiau perthnasol, roedd Ms C wedi derbyn apwyntiadau cyson gyda bydwraig a gwnaed trefniadau i Mr B fod yn bresennol ym mhob apwyntiad, ar adeg pryd oedd trefniadau o’r fath wedi eu cyfyngu oherwydd pandemig Covid-19. Casglodd yr ymchwiliad hefyd fod atgyfeiriad y fydwraig at JIG-SO yn briodol. Fodd bynnag, nid oedd unrhyw drafodaeth wedi’i chofnodi â Ms C am JIG-SO a’i wasanaeth ac nid oedd y daflen wybodaeth am JIG-SO yn un ddiweddar. Dylai Ms C fod wedi bod yn rhan o drafodaeth am ei gofal er mwyn gallu gwneud penderfyniad gwybodus ynghylch a oedd eisiau cael ei hatgyfeirio neu beidio. Casglodd yr ymchwiliad nad oedd y fydwraig wedi hwyluso dewis gwybodus gan Ms C, oedd yn groes i’r canllawiau cenedlaethol. Achosodd hyn boen meddwl i Ms C oedd yn anghyfiawnder. Felly penderfynwyd derbyn y rhan yma o gŵyn Mr B.
Argymhellodd yr Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd yn ymddiheuro wrth Ms C a thalu iawndal o £250 am y methiant a nodwyd. Argymhellodd hefyd fod y Bwrdd Iechyd yn rhannu’r adroddiad â staff clinigol perthnasol er mwyn dysgu a myfyrio’n feirniadol arno, yn adolygu a diweddaru’r daflen wybodaeth JIG-SO a manylion y gwasanaeth, ac yn atgoffa bydwragedd yng ngwasanaeth bydwreigiaeth y Bwrdd Iechyd o bwysigrwydd cynnwys merched beichiog mewn trafodaethau am eu gofal, fel eu bod yn gallu gwneud penderfyniadau gwybodus.