Cwynodd Mrs X am y gofal a’r driniaeth a dderbyniodd ei merch, Miss Y, ar ôl iddi dorri ei hysgwydd ym mis Mawrth 2019. Yn benodol, roedd Mrs X yn anhapus â’r penderfyniadau a wnaed ynghylch y dirywiad yng nghroen Miss Y dros y 7 wythnos wnaeth ddilyn.
Casglodd ymchwiliad yr Ombwdsmon fod y Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd (HCSW) a fu’n cyflawni’r ffisio-symudiadau ar freichiau Miss Y wedi eu hyfforddi’n briodol ac wedi cyflawni’r ymarferion yn briodol, a bod rhai pryderon bod dwysedd esgyrn Miss Y yn isel, ond na ellid dweud i sicrwydd sut y digwyddodd y toriad i ysgwydd Miss Y. Casglodd yr Ombwdsmon nad oedd unrhyw fai ar y gweithwyr HCSW.
O ran y dirywiad yng nghroen Miss Y, roedd pryderon am ei chroen cyn iddi dorri ei hysgwydd ac roedd ei chyflwr yn gyffredinol ynghyd â’i thrafferthion diffyg dal dŵr ac ansymudedd yn golygu bod ei chroen yn dueddol o fod yn fwy tebygol o ddirywio. Fodd bynnag, roedd yr Ombwdsmon yn fodlon bod yr hyn a wnaeth y gweithwyr HCSW, y meddygon teulu a’r nyrsys wnaeth ymweld â Miss Y yn ei chartref yn briodol, bod atgyfeiriadau amserol wedi eu gwneud a phob ateb posib wedi’i ystyried i wella cyflwr croen Miss Y.
Ni dderbyniodd yr Ombwdsmon y gŵyn.