Dyddiad yr Adroddiad

14/12/2021

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Yr amser rhwng atgyfeirio a thriniaeth

Cyfeirnod Achos

202103967

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr Y, yn dilyn dau atgyfeiriad brys at Adran Wroleg y Bwrdd Iechyd gan ei feddyg teulu ym mis Mawrth 2021, nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi graddio ei atgyfeiriadau fel Brys Amheuaeth o Ganser (“USC”). Dywedodd ei fod wedi cysylltu â llinell apwyntiadau’r Bwrdd Iechyd a chael gwybod y byddai’n gorfod aros am flwyddyn i gael apwyntiad ag wrolegydd. Teimlai Mr Y nad oedd dewis ganddo ond chwilio am apwyntiad preifat oherwydd ei fod yn poeni am yr holl aros cyn cael apwyntiad. Yna yn Awst 2021 cafodd Mr Y ddiagnosis o ganser y prostad a’i atgyfeirio’n ôl at y GIG am driniaeth. Yn ei gŵyn roedd Mr Y yn gofyn i’r Bwrdd Iechyd dalu ffi ei apwyntiad ymgynghori preifat yn ôl ac adolygu ei weithdrefnau ar gyfer USC.

Roedd yr Ombwdsmon yn fodlon bod y camau y cytunodd y Bwrdd Iechyd i’w cymryd yng nghyswllt dau adroddiad budd cyhoeddus a gyhoeddwyd gan yr Ombwdsmon yn ddiweddar yn golygu nad oedd yn gymesur ymchwilio i bryderon Mr Y am y ffordd y deliodd y Bwrdd Iechyd â’r broses o frysbennu ei atgyfeiriadau gan ei feddyg teulu. O ran y wybodaeth a roddwyd i Mr Y am yr amser y byddai’n rhaid iddo aros am apwyntiad ag wrolegydd, roedd y Bwrdd Iechyd wedi adnabod bod angen cofnodi amserlen ar gyfer apwyntiadau ar ffurflenni brysbennu fel bo’r wybodaeth yma’n glir i’r tîm archebu cleifion. Pe bai hyn wedi cael ei wneud pan gafodd atgyfeiriadau meddyg teulu Mr Y eu brysbennu, gallai fod wedi tawelu ei feddwl wrth ffonio’r llinell apwyntiadau bod amserlen benodol ar gyfer y byddai’n cael apwyntiad.

Cytunodd y Bwrdd Iechyd i gymryd y camau canlynol i ddatrys cwyn Mr Y. Cytunodd i ymddiheuro, talu ffi apwyntiad ymgynghori preifat Mr Y yn ôl iddo a hysbysu’r Adran Wroleg y dylai atgyfeiriadau brysbennu gofnodi amserlen ar gyfer apwyntiadau o hynny ymlaen.