Dyddiad yr Adroddiad

02/12/2021

Achos yn Erbyn

Cyngor Gwynedd

Pwnc

Materion cynllunio arall

Cyfeirnod Achos

202105257

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X am y diffyg gweithredu gan y Cyngor i gywiro dirywiad graddol Adeilad Rhestredig yn ei ardal leol, drwy gyflwyno rhybuddion cyfreithiol i’r perchennog i sicrhau bod gwaith cynnal a chadw’n cael ei wneud. Cwynodd hefyd am y diffyg diweddaru gan y Cyngor ynghylch y cynnydd gyda’r mater, heblaw pan oedd wedi mynd ar ôl y Cyngor yn unswydd am fwy o wybodaeth.

Roedd y Cyngor wedi bodloni’r Ombwdsmon ei fod yn gweithio ar y mater ond bod nifer o faterion cyfreithiol, ymarferol ac awdurdodaethol yn rhwystro cynnydd gyda’r mater. Cytunodd y Cyngor, o fewn 20 diwrnod gwaith, i ysgrifennu at Mr X yn egluro’r camau a gymrodd hyd yn hyn i ateb y problemau y cwynodd Mr X amdanynt, egluro’r camau y byddai’n eu cymryd o hynny ymlaen (o fewn ei allu) a diweddaru Mr X yn rheolaidd yn y dyfodol. Barnodd yr Ombwdsmon fod hyn yn setlo’r gŵyn yn briodol ac ni chynhaliodd ymchwiliad.