Cwynodd Mr X fod cerbyd gan y Cyngor wedi ceisio ei orfodi oddi ar y ffordd. Roedd un o swyddogion y Cyngor am ymchwilio i’r digwyddiad ond nid oedd wedi adrodd yn ôl ar y canlyniad iddo.
Roedd y Cyngor yn cyfaddef i’r Ombwdsmon, er bod ei ganfyddiadau wedi eu hegluro mewn sgwrs dros y ffôn, na chawsant eu rhoi’n ysgrifenedig. Mae felly wedi cytuno i roi ymateb ysgrifenedig i Mr X ynghyd ag ymddiheuro am fethu â gwneud hynny’n gynt, erbyn 17 Rhagfyr. Barnodd yr Ombwdsmon fod hyn yn ddigonol yn lle cynnal ymchwiliad i’r ffordd y deliwyd â chŵyn Mr X.