Cwynodd Mrs X am broblemau parhaus yn ymwneud â’r bwyler yn ei heiddo, nad oedd yn gweithio’n effeithlon ac nad oedd y Gymdeithas wedi rhoi sylw i’r problemau a heb gydnabod ei chŵyn.
Roedd yr Ombwdsmon yn bryderus am yr oedi i Mrs X a’r anhwylustod a achoswyd iddi gan ymddygiad y Gymdeithas. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb gynnal ymchwiliad.
Roedd yr Ombwdsmon wedi gofyn i’r Gymdeithas a gytunodd i wneud y canlynol erbyn 11 Ionawr 2022:
• Cofnodi cwyn Mrs X fel cwyn ffurfiol.
• Ymddiheuro wrth Mrs X am yr oedi’n ymateb i’w chŵyn.
• Rhoi esboniad i Mrs X am yr oedi.
• Rhoi ymateb i gŵyn Mrs X, yn ymgorffori manylion y gwaith a wnaed eisoes ynghyd ag unrhyw waith oedd ar ôl i’w wneud, lle bo’n briodol.