Cafodd yr Ombwdsmon gŵyn gan Reolwr Practis Meddyg Teulu (“y Practis”) yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (“y Bwrdd Iechyd”), bod Aelod (“yr Aelod”) o Gyngor Dinas Casnewydd wedi methu â chydymffurfio â’r Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau.
Honnwyd bod yr Aelod wedi defnyddio ei swydd fel aelod o’r Cyngor yn amhriodol pan oedd yn eiriol ar ran un o gleifion y Practis.
Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad bod yr Aelod wedi gwneud 2 alwad ffôn i’r Practis lle ceisiodd ddibynnu’n amhriodol ar ei sefyllfa fel Aelod o’r Cyngor, ac fel cynrychiolydd o’r Cyngor ar y Bwrdd Iechyd, er mwyn siarad â meddyg ar alwad am ofal iechyd y claf. Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad hefyd fod yr Aelod wedi gwneud cwyn i’r Bwrdd Iechyd yn cynnwys gwybodaeth a oedd yn feirniadol o staff y Practis ac nad oedd yn adlewyrchu cynnwys y sgyrsiau dros y ffôn yn gywir. Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod y gŵyn yn ymgais gan yr Aelod i ddefnyddio ei sefyllfa i danseilio gweithredoedd y Practis a chreu anfantais i’r Practis.
Penderfynodd yr Ombwdsmon felly y gallai’r Aelod fod wedi torri paragraff 7(a) o God Ymddygiad y Cyngor ar gyfer Aelodau a chyfeiriodd ei adroddiad ar yr ymchwiliad at Swyddog Monitro Cyngor Dinas Casnewydd i’w ystyried gan ei Bwyllgor Safonau.
Daeth y Pwyllgor Safonau i’r casgliad fod yr Aelod wedi torri paragraff 7(a) o’r Cod Ymddygiad a’i hatal am 3 mis. Argymhellwyd hefyd i’r Cyngor ei thynnu o’i swydd ar y Bwrdd Iechyd.