Cafodd yr Ombwdsmon gŵyn wedi ei hunangyfeirio bod Aelod (“yr Aelod”) o Gyngor Castell-nedd Port Talbot (“y Cyngor”) wedi torri’r Cod Ymddygiad (“y Cod”) mewn perthynas â sylwadau a wnaeth yn ystod cyfarfod preifat o’r Blaid Lafur yn ystod mis Hydref 2019. Cafodd y sylwadau eu recordio’n gyfrinachol a’u cyhoeddi’n ddiweddarach ar y cyfryngau cymdeithasol ar 5 Mawrth 2021.
Dechreuodd yr Ombwdsmon ymchwilio i rai o’r sylwadau a wnaed gan ystyried a oedd yr Aelod wedi torri paragraffau canlynol y Cod:
- 6(1)(a) – rhaid i aelodau beidio ag ymddwyn mewn modd y gellid yn rhesymol ystyried ei fod yn dwyn anfri ar eu swydd neu eu hawdurdod.
- 7(b)(v) – ni chaiff aelodau ddefnyddio nac awdurdodi eraill i ddefnyddio adnoddau eu hawdurdod yn amhriodol at ddibenion gwleidyddol.
Yn y recordiad, soniodd yr Aelod am ad-drefnu ysgolion. Canfu’r ymchwiliad ei bod yn ymddangos bod sylwadau a wnaed am adleoli ysgol benodol wedi cael eu gwneud yng nghyd-destun adroddiad a oedd yn nodi bod yr ysgol mewn perygl o gael ei heffeithio gan dirlithriad. Roedd y sylwadau’n seiliedig ar gyngor proffesiynol annibynnol ac felly nid oeddent yn debygol o arwain at dorri’r Cod.
Gwnaeth yr Aelod sylwadau cyffredinol hefyd am gynlluniau ad-drefnu ysgolion y Cyngor. Er bod yr Aelod wedi mynegi ei safbwyntiau rhagarweiniol ar y mater yn glir, nid oedd yn ymddangos ei fod yn diystyru’r posibilrwydd o opsiynau eraill. Nid oedd ychwaith yn nodi na fyddai’n fodlon ystyried cyngor swyddogion priodol. Oherwydd hynny, nid oedd y sylwadau’n gyfystyr â thorri’r Cod.
Yn ystod y recordiad, awgrymodd yr Aelod y byddai’n gwrthod cyllid ar gyfer cynnig a gefnogir gan blaid wleidyddol arall o blaid cynnig sy’n groes i’r Blaid Lafur ac, wrth wneud hynny, cyfeiriodd at ei ymwneud â thrwsio ffordd y fynwent yn Ystalyfera. Grŵp Llywio Rhaglen Gyfalaf y Cyngor wnaeth y penderfyniad i ariannu’r gwaith ar y ffordd. Er bod yr Aelod wedi cael copi o ohebiaeth, nid oedd yn rhan o’r penderfyniad i ariannu’r gwaith. O’r herwydd, daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad nad oedd tystiolaeth i awgrymu bod yr Aelod wedi camddefnyddio ei safle mewn perthynas â’r mater hwn ac nad oedd tystiolaeth o dorri’r Cod.
Cyfeiriodd yr Aelod hefyd at “gadw aelod arall allan” wrth gyflwyno rhaglen adfywio yr oedd yr aelod hwnnw wedi bod yn ymgyrchu yn ei chylch ers sawl blwyddyn. Ni chanfu’r ymchwiliad unrhyw dystiolaeth o unrhyw gamau bwriadol gan yr Aelod i “gadw allan”, nac eithrio’r aelod arall o’r rhaglen. Roedd methiant i roi gwybod i’r aelod am ddatblygiadau, fodd bynnag, nid cyfrifoldeb yr Aelod oedd gwneud hynny a, beth bynnag, un o swyddogion y Cyngor oedd yn bennaf gyfrifol am yr esgeulustod hwn. Nid oedd unrhyw dystiolaeth bod yr Aelod wedi torri’r Cod.
Hysbyswyd yr Aelod na chanfuwyd unrhyw dystiolaeth o dorri’r Cod yn ystod yr ymchwiliad.