Dyddiad yr Adroddiad

06/09/2021

Achos yn Erbyn

Cyngor Tref Bodelwyddan

Pwnc

Dyletswydd i gynnal y gyfraith

Cyfeirnod Achos

202100504

Canlyniad

Dim angen gweithredu

Cafodd yr Ombwdsmon gŵyn bod Aelod (“yr Aelod”) o Gyngor Tref Bodelwyddan (“y Cyngor”) wedi torri’r Cod Ymddygiad (“y Cod”) pan oedd yn rhannu delweddau teledu cylch cyfyng cyfrinachol ar dudalen Facebook y Cyngor mewn post a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2021.

Ymchwiliodd yr Ombwdsmon i weld a allai gweithredoedd yr Aelod fod wedi arwain at dorri paragraffau 5(a) a 6(1)(a) o’r Cod.

Cafodd yr Ombwdsmon wybodaeth berthnasol gan y Cyngor ac ystyriodd sylwadau’r Aelod.  Canfu’r Ombwdsmon fod yr Aelod wedi cyhoeddi delwedd aneglur yn bennaf o ffilm CCTV y Cyngor ar dudalen Facebook y Cyngor.  Gan y byddai’n rhesymol ystyried bod y delweddau teledu cylch cyfyng yn gyfrinachol ac na ddylid eu rhannu’n gyhoeddus fel hyn, roedd yr Ombwdsmon o’r farn y gallai gweithredoedd yr Aelod fod yn gyfystyr â thorri paragraffau 5(a) a 6(1)(a) o’r Cod.

Fodd bynnag, nid oedd y Cyngor wedi darparu unrhyw hyfforddiant ar y Cod, y defnydd o’i gyfryngau cymdeithasol, na’r defnydd o’i CCTV i’r Aelod.  Yn ogystal, nid oedd gan y Cyngor unrhyw bolisïau na gweithdrefnau mewn perthynas â’r defnydd o’i gyfryngau cymdeithasol na’r defnydd o’i deledu cylch cyfyng.  Roedd yr Aelod hefyd wedi ymddiheuro i’w cyd-aelodau o’r Cyngor ac wedi dileu’r ddelwedd yn gyflym pan ofynnwyd iddo wneud hynny.  Felly, nid oedd yr Ombwdsmon o’r farn bod angen cymryd unrhyw gamau pellach.  Fodd bynnag, awgrymodd fod yr Aelod yn ceisio hyfforddiant ar y Cod cyn gynted â phosib ac y dylai’r Cyngor ystyried yn ddi-oed a oes ganddo bolisïau a/neu weithdrefnau deledu cylch cyfyng, diogelu data a chyfryngau cymdeithasol priodol ar waith.