Cafodd yr Ombwdsmon gŵyn gan un o weithwyr Cyngor Cymuned Sili a Larnog (“y Cyngor”) nad oedd Aelod (“yr Aelod”) o’r Cyngor wedi cydymffurfio â’r Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau.
Honnwyd, yn ystod digwyddiad ar gae chwarae Cyngor yn ymwneud ag offer y Cyngor, bod yr Aelod wedi cam-drin a bwlio’r gweithiwr ar lafar ac wedi cam-drin a chythruddo tad y gweithiwr.
Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad bod yr Aelod yn defnyddio iaith sarhaus a dilornus tuag at y gweithiwr o flaen aelodau eraill a thad y gweithiwr, mewn ymgais i sarhau, bychanu a thanseilio’r gweithiwr. Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad bod gweithredoedd yr Aelod yn awgrymu bwlio a chythruddo.
Penderfynodd yr Ombwdsmon y gallai ymddygiad yr Aelod fod wedi torri Cod Ymddygiad y Cyngor, yn benodol 4(b) a 4(c) drwy fethu dangos parch ac ystyriaeth tuag at eraill, a pheidio ag ymddwyn mewn ffordd sy’n achosi bwlio. Canfu’r Ombwdsmon hefyd y gallai ymddygiad yr Aelod gael ei ystyried yn ymddygiad a allai ddwyn anfri ar swydd Aelod o’r Cyngor ac felly ei fod hefyd yn awgrymu torri 6(1)(a) o’r Cod Ymddygiad.
Cyfeiriodd yr Ombwdsmon ei adroddiad ar yr ymchwiliad at Swyddog Monitro Cyngor Bro Morgannwg i’w ystyried gan ei Bwyllgor Safonau.
Ymddiswyddodd yr Aelod ychydig cyn Gwrandawiad y Pwyllgor Safonau. Penderfynodd Pwyllgor Safonau Cyngor Bro Morgannwg fod y Cyn Aelod wedi torri paragraffau 4(b), 4(c) a 6(1)(a) o’r Cod Ymddygiad a bod y Cyn Aelod wedi cael cerydd.