Cwynodd Mrs C fod y Practis Meddyg Teulu wedi methu â rhoi gofal priodol i’w merch, J, pan aeth J yn sâl ym mis Chwefror 2021. Aeth J i 2 apwyntiad gyda dau feddyg teulu gwahanol, ac yn anffodus, bu farw’n fuan ar ôl i’r ail feddyg teulu ei hatgyfeirio i’r Ysbyty.
Canfu’r Ombwdsmon fod y meddyg teulu cyntaf wedi asesu J yn briodol, ond cofnododd symptom o ddolur rhydd, a’i arwain i roi diagnosis o gastroenteritis feirysol. Serch hynny, nid oedd yn ymddangos bod gan J ddolur rhydd, felly, ni chafodd y diagnosis hwn ei gefnogi a’i fod yn fwy tebygol bod ganddi haint amhenodol arall. Serch hynny, roedd y camau a gymerwyd gan y meddyg teulu cyntaf a’r cyngor a roddodd yn briodol; roedd y driniaeth a awgrymodd yn addas ac nid oedd unrhyw beth pellach y dylid bod wedi’i wneud. Yn ogystal, ni chafodd gofal J ar ôl hynny ei ddylanwadu gan y gwall hwn. Canfu’r Ombwdsmon fod yr ail feddyg teulu wedi cydnabod bod J yn anhwylus iawn ac yn iawn i’w hatgyfeirio i’r Ysbyty.
Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad na allai datblygiad haint J, a’r canlyniad yn y pen draw, fod wedi cael ei ddarogan na’i atal gan y naill feddyg teulu na’r llall. Ni chadarnhaodd y gŵyn.