Dyddiad yr Adroddiad

12/01/2022

Achos yn Erbyn

Cyngor Caerdydd

Pwnc

Parcio (gan gynnwys gorfodi a beilïaid)

Cyfeirnod Achos

202103886

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X fod y Cyngor wedi methu ag ymateb yn briodol i’w adroddiadau bod cerbydau sydd wedi parcio yn blocio’r cwrb isel yn ei eiddo. Mynegodd bryderon fod ymateb y Cyngor i’w gŵyn yn annigonol ac nad ystyriodd ei anghenion penodol fel preswyliwr ag awtistiaeth.

Canfu’r Ombwdsmon fod ymateb y Cyngor i’r gŵyn yn aneffeithiol ac aneglur. Ni wnaeth gydnabod angen penodol Mr X am adborth oherwydd ei awtistiaeth.
Wrth setlo’r gŵyn, bydd y Cyngor:
• Yn rhoi ymddiheuriad ysgrifenedig ffurfiol i Mr X am ei ymateb i’w gŵyn a’r dryswch am yr ymweliadau gorfodaeth dyddiol.
• Yn trefnu e-bost wythnosol i Mr X a fydd yn rhestru sawl gwaith y bydd swyddogion gorfodaeth parcio wedi ymweld â’i eiddo yr wythnos honno ac unrhyw daliadau cosb sydd wedi’u rhoi.
• Fel arwydd o ewyllys da, gosod marc bar-H ar draws y cwrb isel yn yr eiddo er mwyn peidio ag annog tramgwyddau parcio.