Dyddiad yr Adroddiad

27/01/2022

Achos yn Erbyn

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Pwnc

Eraill

Cyfeirnod Achos

202105152

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms X am yr amser a gymerodd i’r Cyngor roi cytundeb rheoli newydd ar waith mewn safle sipsiwn a theithwyr ac i ad-dalu costau i breswylwyr ar gyfer gwaith cynnal a chadw arferol. Mynegwyd pryderon hefyd am yr oedi wrth ail-leoli mur sain a datganiad y Cyngor na fyddai swyddogion yn delio â phreswylwyr yn uniongyrchol pe bai honiadau o hiliaeth yn cael eu gwneud.

Er bod y dystiolaeth yn awgrymu bod y Cyngor wedi bod yn gweithredu i fynd i’r afael â’r sefyllfa, roedd yr Ombwdsmon yn bryderus bod y materion hyn wedi bod yn mynd rhagddynt ers peth amser. Roedd rhai materion y tu allan i’r amser i’w hystyried ac roedd eraill wedi’u datrys. Dywedodd y Cyngor fod y swyddogion wedi teimlo bod yr honiadau cyson o hiliaeth yn dramgwyddus ond heb ddod â’r cyswllt uniongyrchol i ben. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn.
Roedd yr Ombwdsmon wedi gofyn i’r Cyngor ddarparu cytundeb rheoli newydd drafft i’r preswylwyr ac i ad-dalu eu costau erbyn 31 Ionawr 2022 a chytunodd y Cyngor i hynny.