Dyddiad yr Adroddiad

13/01/2022

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202106169

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi methu ag ymateb i gŵyn a wnaed am driniaeth a roddwyd yn Ysbyty’r Tywysog Philip.

Canfu’r Ombwdsmon fod Mr A wedi cwyno’n wreiddiol i Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ynglŷn â thriniaeth a roddwyd yn Ysbyty Treforys ac Ysbyty’r Tywysog Philip. Darparodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ymateb ynglŷn â thriniaeth a roddwyd yn Ysbyty Treforys ac anfonodd gŵyn Mr A am Ysbyty’r Tywysog Philip at Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Pan gwynodd Mr A i’r Ombwdsmon, roedd 9 mis wedi mynd heibio heb ymateb.

Cysylltodd yr Ombwdsmon â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, a chytunodd i roi ymateb ysgrifenedig llawn i Mr A, ymddiheuriad a chynnig am iawndal o £250 i gydnabod y ffaith yr ymdriniwyd â’r gŵyn yn wael, o fewn 10 diwrnod gwaith.