Dyddiad yr Adroddiad

01/26/2022

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202106625

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs X nad oedd y driniaeth a dderbyniodd claf o dan ofal y Bwrdd Iechyd yn foddhaol, ac nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi ymateb i gŵyn ffurfiol Mrs X a wnaed ym mis Gorffennaf 2021.

Roedd yr Ombwdsmon yn bryderus nad oedd Mrs X wedi derbyn ymateb wrth y Bwrdd Iechyd hyd yma, a chysylltodd â’r Bwrdd Iechyd. Yn lle ymchwiliad, cytunodd y Bwrdd Iechyd i roi ymateb ffurfiol i Mrs X erbyn 28 Chwefror 2022. Derbyniodd yr Ombwdsmon hyn fel ffordd o ddatrys cwyn Mrs X.