Cwynodd Ms F nad oedd y Bwrdd Iechyd, yn ystod ei beichiogrwydd, wedi cael gafael ar ei chofnodion mamolaeth blaenorol, er gwaethaf sawl cais ganddi, ac nad oedd wedi dilyn y drefn gywir ar gyfer eu hadfer. Roedd Ms F yn poeni y gallai fod cymhelliad hiliol y tu ôl i fethiant y Bwrdd Iechyd i sicrhau bod ei chofnodion ar gael. Cwynodd Ms F hefyd fod y Bwrdd Iechyd wedi methu â darparu copïau o’i chofnodion blaenorol i Ail Fwrdd Iechyd a oedd wedi cymryd drosodd o safbwynt ei gofal. Cwynodd hefyd fod y Bwrdd Iechyd wedi methu â darparu gwasanaeth cwnsela iddi yn unol â’i broses arferol ar gyfer menywod a oedd wedi cael toriad Cesaraidd o’r blaen, a bod ei Hymgynghorydd wedi mynegi’r farn y dylai genedigaeth arferol fod yn briodol heb weld ei chofnodion blaenorol.
Ni chanfu’r Ombwdsmon unrhyw dystiolaeth bod staff bydwreigiaeth wedi gofyn am nodiadau blaenorol Ms F neu wedi tynnu sylw at y ffaith eu bod ar goll fel y dylent fod wedi gwneud, ac roedd y Bwrdd Iechyd wedi cydnabod nad oedd y bydwragedd dan sylw yn ymwybodol o’r broses gywir. Nid oedd y Bwrdd Iechyd wedi dod o hyd i’r cofnodion tan ar ôl i fabi Ms F gael ei eni, pan daethpwyd o hyd iddynt yn adran cofnodion meddygol sydd wedi’i harchifo y Bwrdd Iechyd. Canfu’r Ombwdsmon mai camweinyddu oedd y methiant i ddilyn y prosesau cywir ac i gynnal chwiliadau amserol a thrylwyr am y cofnodion. Roedd y methiannau hyn wedi gwneud i Ms F boeni’n sylweddol, a oedd yn bryderus iawn oherwydd ei thoriad Cesaraidd brys blaenorol. Roedd yr Ombwdsmon wedi cadarnhau’r gŵyn, er nad oedd wedi canfod unrhyw dystiolaeth o wahaniaethu ar sail hil o ran y ffordd roedd y staff wedi gweithredu. Roedd hefyd wedi cadarnhau’r gŵyn oedd yn ymwneud â methu darparu cofnodion blaenorol Ms F i’r Ail Fwrdd Iechyd, a oedd wedi achosi iddi boeni a phryderu mwy.
Ni chanfu’r Ombwdsmon unrhyw ddiffygion o ran y gwasanaeth cwnsela a gafodd Ms F gan ei Hymgynghorydd, a oedd wedi canolbwyntio ar risgiau a manteision cyffredinol genedigaeth naturiol. Fodd bynnag, dylai Ms F fod wedi cael cyfle i adolygu ei phrofiad blaenorol o feichiogrwydd a genedigaeth ag obstetrydd. Roedd y methiant i gael gafael ar ei chofnodion yn golygu na chafodd y cyfle hwnnw, ac roedd hyn wedi achosi trallod a phryder iddi ac wedi effeithio ar ei gallu i wneud dewis gwybodus ynghylch cynllunio ar gyfer yr enedigaeth. Roedd yr Ombwdsmon wedi cadarnhau’r gŵyn ar y sail honno.
Nododd yr Ombwdsmon nad oedd gan Ms F unrhyw ffactorau a fyddai’n atal genedigaeth arferol, ac ni chadarnhaodd y gŵyn am y farn a fynegwyd gan Ymgynghorydd Ms F.
Argymhellodd yr Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd, o fewn mis i’r adroddiad, yn ymddiheuro i Ms F ac yn talu £500 iddi i adlewyrchu ei ganfyddiadau.