Dyddiad yr Adroddiad

14/02/2022

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

Pwnc

Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty; Eraill

Cyfeirnod Achos

202004997

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Mrs A am yr oedi a fu yng nghyswllt ei merch, Miss B, sy’n oedolyn, cyn cael ei hapwyntiad cyntaf â’r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig (“IAS”) yn 2018 yn dilyn diagnosis o awtistiaeth. Cyfeiriodd hefyd at y ffaith fod ei merch wedi cael mwy nag un apwyntiad asesu cychwynnol â’r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig yn ogystal â lefel ac ansawdd y cymorth a ddarparwyd yn ystod yr asesiadau cychwynnol hynny. Ar ben hynny, roedd Mrs A yn anfodlon â chadernid ymatebion y Bwrdd Iechyd i’r gŵyn.
Daeth ymchwiliad yr Ombwdsmon i’r casgliad y gallai cyfathrebu o fewn yr IAS, fel sefydliad, fod wedi bod yn well o ran rhoi gwybod i ddefnyddwyr gwasanaeth a’u teuluoedd am yr oedi yng nghyswllt yr amserlen apwyntiadau. Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad bod Mrs A a’i merch wedi cael cam gan y byddai’r oedi wedi dwysáu eu pryder am y diagnosis. Cadarnhaodd yr Ombwdsmon y rhan hon o gŵyn Mrs A.

Ni chadarnhaodd yr Ombwdsmon gŵyn Mrs A ynghylch nifer yr asesiadau a gynhaliwyd, gan ei fod yn arfer da gwneud hynny er mwyn canfod anghenion. Roedd diffyg manylder yn y dogfennau wedi llesteirio i ba raddau y gellid pwyso a mesur y gefnogaeth a roddwyd ar bob cam. Roedd yr Ombwdsmon yn feirniadol o agweddau ar y cymorth a roddwyd, er bod yr asesiad cychwynnol ar ôl y diagnosis yn ymddangos yn fwy priodol na’r sesiynau cymorth ar wahân a ddarparwyd yn ddiweddarach.
Canfu’r Ombwdsmon, er enghraifft, fod oedi sylweddol wedi bod cyn cynnal yr apwyntiad asesu cymorth cychwynnol a thystiolaeth o adegau o gyfathrebu gwael o fewn yr IAS. Canfu’r Ombwdsmon yr achoswyd anghyfiawnder i Miss B, er bod rhywfaint o ansicrwydd ynghylch a oedd yr oedi’n golygu y collwyd cyfle i fynd i’r afael ag anghenion cymorth Miss B yn gynt. Roedd y methiant i egluro rôl y Gweithiwr Cymorth yn y cyswllt a gafodd Mrs A â’r IAS hefyd wedi ychwanegu at amheuon a phryderon Mrs A ynghylch IAS. Cadarnhaodd yr Ombwdsmon y rhan hon o gŵyn Mrs A.

Yn olaf, cadarnhaodd yr Ombwdsmon gŵyn Mrs A ynghylch cadernid ymatebion y Bwrdd Iechyd i’r gŵyn, ac wrth wneud hynny cyfeiriodd at anghysondebau a gwallau yn ymatebion y Bwrdd Iechyd i’r gŵyn. Roedd y rhain wedi tanseilio hyder ac ymddiriedaeth Mrs A yn IAS ac wedi achosi anghyfiawnder iddi hefyd.
Roedd argymhellion yr Ombwdsmon yn cynnwys bod y Bwrdd Iechyd yn ymddiheuro, gan dalu iawndal ariannol o £250 i gydnabod yr amser a’r drafferth a achoswyd oherwydd y methiannau o ran delio â chwynion. Ar ben hynny, gofynnwyd i’r Bwrdd Iechyd ddarparu tystiolaeth o atodiad yn cywiro’r cofnodion clinigol ac yn cadarnhau rôl y Gweithiwr Cymorth yn ogystal ag adolygu’r ffordd yr oedd wedi delio â’r gŵyn yn yr achos hwn at ddibenion dysgu ehangach.