Dyddiad yr Adroddiad

11/02/2022

Achos yn Erbyn

Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

Pwnc

Gwasanaethau i Bobl ag anabledd

Cyfeirnod Achos

202106300

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Dywedodd Mrs X fod ei merch wedi bod yn mynd i ganolfan gofal dydd benodol ers blynyddoedd lawer. Yn dilyn y cyfnod clo cenedlaethol, dywedodd y Cyngor wrthi na allai ei merch ddychwelyd yno. Cwynodd Mrs X na fyddai’r ganolfan gofal dydd arall a gynigiwyd yn diwallu anghenion ei merch.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Cyngor wedi ymateb i bryderon Mrs X yn flaenorol, ond roedd lle i uwchgyfeirio ei chwyn i gam 2 o dan Reoliadau Gweithdrefn Gwynion y Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru) 2014.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i benodi Person Annibynnol i ymchwilio i’r pryderon a godwyd.