Cwynodd Mrs D fod Taliadau Gwledig Cymru (sy’n rheoli taliadau cymorth uniongyrchol i ffermydd yng Nghymru) wedi tynnu ei henw o bartneriaeth ffermio weithredol (a oedd yn cael ei chynnal ar y cyd â’i chyn ŵr, Mr D) ac wedi rhwystro mynediad i’w system ar-lein. Cwynodd Mrs D:
1.Gwnaed hyn heb ei hawdurdod ysgrifenedig ac roedd yn groes i sicrwydd a roddwyd gan Taliadau Gwledig Cymru y byddai’r holl drafodion ac ymholiadau yn ymwneud â’r bartneriaeth yn cael eu gweithredu dim ond os oeddent yn ysgrifenedig ac wedi eu llofnodi gan y ddau bartner (o gofio bod nifer o faterion yn destun anghydfod yn dilyn ysgariad Mr a Mrs D)
2. Rhoddodd Taliadau Gwledig Cymru wybod iddi ei fod wedi newid ei gofnodion, ar gais Mr D (gyda llythyr gan ei gyfreithiwr), i adlewyrchu’r ffaith bod y bartneriaeth wedi dod i ben, gan wneud Mr D yn unig fasnachwr y busnes ffermio. Fodd bynnag, penderfynwyd ar hyn heb wirio cywirdeb y wybodaeth gyda Mrs D neu ei chyfreithiwr.
3.Roedd y penderfyniad hwn yn un gwahaniaethol a arweiniodd at golledion ariannol, ynghyd â chryn drallod ac anhwylustod wrth fynd ar drywydd ei chwynion am y mater hwn.
Cadarnhaodd yr Ombwdsmon y dair cwyn yn rhannol. O ran cwynion 1 a 2, canfu’r Ombwdsmon, mewn egwyddor, nad oedd y penderfyniadau i dynnu Mrs D oddi ar deitl y bartneriaeth a diwygio ei chofnodion i wneud Mr D yn unig fasnachwr (yn rhannol ar gyngor gan ei gyfreithiwr) yn afresymol o ystyried yr amgylchiadau eithriadol a oedd yn bodoli (a oedd yn cynnwys anghydfod nad oedd yn ymddangos y gellid ei ddatrys a oedd wedi cloi pob trafodiad busnes gweithredol). Fodd bynnag, er bod y Panel wedi cyfiawnhau ei benderfyniadau ar sail polisïau sy’n ymwneud ag amgylchiadau eithriadol a’i rwymedigaeth i dderbyn gwybodaeth a ddarparwyd gan gyfreithiwr cofrestredig, nid oedd wedi rhoi’r polisïau hyn i Mrs D nac wedi egluro’r rhesymeg dros ei benderfyniadau o ran ei ymdrechion i ddatrys yr anesmwythyd a oedd wedi codi. Roedd y diffygion cyfathrebu hyn yn rhoi’r argraff i Mrs D fod Taliadau Gwledig Cymru wedi ffafrio buddiannau Mr D yn ofalus dros ei buddiannau hi ac, felly, wedi arwain at anghyfiawnder y gellid bod wedi ei osgoi.
O ran cwyn 3, ni chanfu’r Ombwdsmon unrhyw dystiolaeth o unrhyw fwriad ar ran Taliadau Gwledig Cymru i wahaniaethu yn erbyn Mrs D a phenderfynodd fod ei phryderon am golledion ariannol yn faterion a oedd yn rhan o rannu a dyrannu asedau materol y partneriaethau ffermio teuluol (gan eu bod, o’r herwydd, yn fater preifat rhyngddi hi a’i chyn ŵr). Fodd bynnag, canfu’r Ombwdsmon, oherwydd cyfathrebu gwael Taliadau Gwledig Cymru, fod Mrs D wedi dioddef pryder ac anhwylustod y gellid bod wedi ei osgoi (a ymestynnodd dros fisoedd lawer) ar adeg o gynnwrf emosiynol personol.
Argymhellodd yr Ombwdsmon y dylai Taliadau Gwledig Cymru roi ymddiheuriad dwys i Mrs D am y methiannau a nodwyd ac, er mwyn cydnabod yr amser a’r drafferth a gafodd wrth gwyno, talu £250 iddi. Argymhellodd yr Ombwdsmon hefyd fod Taliadau Gwledig Cymru yn darparu copïau o’r polisïau y dibynnodd arnynt wrth ddod i’w gasgliadau.
Cytunodd RPW i weithredu’r argymhellion hyn.