Dyddiad yr Adroddiad

09/03/2022

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202005745

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Mrs A fod y Bwrdd Iechyd wedi methu â darparu gofal a thriniaeth briodol i’w merch, Plentyn B, ar ôl iddi gael anaf i’w phenelin ar 30 Mawrth 2020, a’i fod wedi methu â darparu ymateb priodol i’w phryderon.
Canfu’r Ombwdsmon y gallai’r Bwrdd Iechyd fod wedi cyfeirio Plentyn B at Lawfeddyg Paediatrig arbenigol yn gynt ac, er na fyddai hyn wedi newid y canlyniad clinigol o bosib, roedd yr oedi wedi achosi trallod ac ansicrwydd ychwanegol i Blentyn B ac i Mrs A. Roedd y trallod ychwanegol hwn yn anghyfiawnder, a chafodd yr agwedd hon ar y gŵyn ei chadarnhau.
Roedd yr Ombwdsmon yn fodlon bod y Bwrdd Iechyd wedi delio â chŵyn Mrs A yn briodol, gan gynnwys rhoi cydnabyddiaeth, diweddariadau a gwybodaeth iddi am sut i uwchgyfeirio ei phryderon os oes angen. Ni chadarnhawyd y rhan hwn o’r gwyn.
Argymhellodd yr Ombwdsmon y dylai’r Bwrdd Iechyd, o fewn 1 mis, roi ymddiheuriad ysgrifenedig i Mrs A am y methiannau a nodwyd yn yr adroddiad hwn ac, o fewn 3 mis i gyhoeddi fersiwn terfynol yr adroddiad hwn, y dylai’r Bwrdd Iechyd ddarparu tystiolaeth i’r Ombwdsmon ei fod wedi pwyso a mesur y methiannau a nodwyd yn yr adroddiad hwn ac adolygu ei brosesau o ran rheoli achosion o dorasgwrn pediatrig yn unol â hynny, gan gynnwys proses gadarn ar gyfer atgyfeirio achosion cymhleth o doresgyrn pediatrig.