Cwynodd Mrs A ar ran ei diweddar ŵr, Mr A, am ei driniaeth a’i ofal pan gafodd ei dderbyn i’r ysbyty gyda diffyg anadl. Dywedodd Mrs A fod y Bwrdd Iechyd wedi methu gofyn am gydsyniad gwybodus cyn rhoi ffurflen na cheisier dadebru cardio-anadlol (“y Ffurflen DNACPR”) – cafodd cofnod o benderfyniad gan staff meddygol i beidio â cheisio dadebru claf pe bai ei galon neu ei anadlu stopio) ei roi ar waith, darparu lefelau priodol o ocsigen ychwanegol, ardystio achos cywir marwolaeth, a dychwelyd eiddo Mr A i’w deulu.
Canfu’r Ombwdsmon, er bod penderfyniad DNACPR yn glinigol briodol, fod tystiolaeth i’r gwrthwyneb a chadw cofnodion gwael ynghylch y penderfyniad yn golygu nad oedd modd dweud a oedd Mr A a’i deulu wedi cymryd rhan yn y broses gwneud penderfyniadau yn unol â’r canllawiau perthnasol. Nid oedd cofnodion nyrsio na thystiolaeth o unrhyw fonitro ar arwyddion hanfodol Mr A i sicrhau Mrs A ei fod yn derbyn lefelau priodol o ocsigen ychwanegol. O ganlyniad i sut roedd yn ymddangos yn glinigol, gweithredodd y Bwrdd Iechyd yn briodol wrth ardystio achos marwolaeth Mr A fel COVID-19. Fodd bynnag, methodd â dychwelyd eiddo Mr A i’w deulu yn unol â’i bolisi, a chofnodi bod eiddo Mr A wedi cael ei waredu, gan achosi cyfathrebu gwael am gyfnod hir ar ôl iddo farw. Roedd y methiannau a nodwyd yn achosi ansicrwydd diangen i’r teulu ynghylch pa mor briodol oedd gofal a thrallod ychwanegol Mr A. Yn unol â hynny, cadarnhawyd rhai agweddau ar y gŵyn.
Argymhellodd yr Ombwdsmon y dylai’r Bwrdd Iechyd ymddiheuro i Mrs A a thalu iawndal ariannol o £750 iddi i gydnabod effaith y methiannau arni. Dylai’r Bwrdd Iechyd hefyd rannu canfyddiadau’r ymchwiliad â staff perthnasol er mwyn sicrhau bod gwersi’n cael eu dysgu yn sgil y gŵyn.