Cwynodd Mrs X am y gofal a’r driniaeth a gafodd ei mam, Mrs Y, gan Feddygfa Ddeintyddol (“y Practis”) yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Ystyriodd yr ymchwiliad:
a) A oedd methiant i ddarparu triniaeth ddeintyddol briodol ar 24 Chwefror 2021, ac a oedd hyn wedi golygu bod Mrs Y wedi dioddef o niwralgia trigeminol (poen wyneb ddifrifol, sydyn sy’n cael ei disgrifio’n aml fel poen fel saeth siarp neu fel cael sioc drydanol yn yr ên, y dannedd neu’r deintgig).
b) A oedd gofal deintyddol dilynol Mrs Y yn briodol.
Canfu’r Ombwdsmon fod y driniaeth a gafodd Mrs Y ar 24 Chwefror o fewn yr amrediad o bractis deintyddol priodol ac yn unol â safonau perthnasol; nid oedd unrhyw dystiolaeth o fethiant gwasanaeth yn y driniaeth a ddarparwyd na bod cysylltiad achosol rhwng y pigiadau anesthetig a roddwyd i Mrs Y cyn y weithdrefn echdynnu dannedd ar y dyddiad hwn a diagnosis diweddarach o niwralgia trigeminol. Ni chadarnhaodd yr Ombwdsmon y gwyn hon.
Canfu’r Ombwdsmon ei bod yn briodol peidio ag amserlennu apwyntiad dilynol ar gyfer Mrs Y a bod unrhyw apwyntiad dilynol yn fater i Mrs Y. Fodd bynnag, yn ôl cyfaddefiad y deintydd ei hun, nid oedd y gofal dilynol ar 17 Mawrth yn unol â’r canllawiau perthnasol ac roedd wedi cymryd camau i ystyried yr apwyntiad ac ymgyfarwyddo o’r newydd â’r canllawiau perthnasol. Er bod methiant i ddilyn canllawiau yn cael ei ystyried yn gamweinyddu yn gyffredinol, nid oedd unrhyw arwydd bod y driniaeth a gafwyd wedi cael unrhyw effaith andwyol fesuradwy ar Mrs Y. Ni chafodd y gŵyn ei chyfiawnhau.