Dyddiad yr Adroddiad

28/03/2022

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Gofal Parhaus

Cyfeirnod Achos

202101391

Canlyniad

Setliadau gwirfoddol

Cwynodd Mrs A am benderfyniad y Bwrdd Iechyd nad oedd ei mam, Mrs B, yn gymwys i dderbyn Gofal Iechyd Parhaus y GIG i dalu costau llawn ei ffioedd cartref nyrsio rhwng mis Mawrth 2015 a mis Mehefin 2017.
Canfu’r ymchwiliad fod y broses weinyddol gywir wedi cael ei rhoi ar waith gan y Bwrdd Iechyd ym mis Mawrth 2015 pan benderfynodd nad oedd Mrs A bellach yn gymwys i gael Gofal Iechyd Parhaus. Fodd bynnag, methodd â chynnal yr adolygiad blynyddol gofynnol ym mis Mehefin 2016. Yn ystod adolygiad dilynol ym mis Mehefin 2017, gwelwyd eto bod Mrs A yn gymwys o ddyddiad yr adolygiad. Fodd bynnag, nid oedd unrhyw dystiolaeth bod dyddiad cymhwysedd cynharach wedi cael ei ystyried o ganlyniad i’r methiant i gynnal adolygiad yn 2016.
Cysylltodd yr Ombwdsmon â’r Bwrdd Iechyd ac, wrth setlo’r gŵyn, cytunodd i ailystyried y dystiolaeth o anghenion gofal Mrs B am y cyfnod rhwng Mehefin 2016 a Mehefin 2017 i weld a allai bennu dyddiad cynharach pan ddaeth yn gymwys, a phan fo’n briodol, ad-dalu unrhyw ffi sy’n ddyledus yn unol â’r canllawiau talu perthnasol.