Dyddiad yr Adroddiad

31/03/2022

Achos yn Erbyn

Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

Pwnc

Eraill

Cyfeirnod Achos

202103458

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs A fod y Cyngor wedi tynnu taliadau uniongyrchol yn ôl i Miss X, a oedd wedi arwain at golled ariannol. Ceisiodd Mrs A adfer taliadau uniongyrchol ac ad-daliad am y gofal a oedd wedi ei gyllido gan Miss X. Roedd Mrs A yn anhapus gydag ymateb y Cyngor i’r gŵyn.
Roedd yr Ombwdsmon yn bryderus nad oedd asesiad wedi ei gynnal gan y Cyngor o anghenion gofal a chymorth Miss X na’i sefyllfa ariannol. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i gynnal Asesiad Integredig, o fewn 6 wythnos i’w benderfyniad. Pe bai anghenion gofal a chymorth yn cael eu nodi, cytunodd y Cyngor naill ai i wneud atgyfeiriad i’r Bwrdd Iechyd Lleol am asesiad gofal parhaus neu i gynnal asesiad ariannol. O fewn 7 diwrnod i gwblhau’r Asesiad Integredig, cytunodd y Cyngor i roi gwybod i rieni Miss X am ganlyniad yr asesiad, ac (ar yr amod bod caniatâd yn cael ei roi), rhannu canlyniad yr asesiad gyda’r rheolwr achos preifat a’r dirprwy proffesiynol ar gyfer Miss X.
Ym marn yr Ombwdsmon, roedd y camau uchod yn rhesymol i setlo’r gŵyn.