Cwynodd Ms A am y diffyg gofal a thriniaeth a ddarparwyd i’w diweddar dad tra’r oedd yn glaf mewnol yn Ysbyty Treforys. Ymatebodd y Bwrdd Iechyd i’w chŵyn drwy lythyr a chrynodeb o’r ymchwiliad a gynhaliwyd ganddo.
Nid oedd yr Ombwdsmon yn fodlon bod ymateb y Bwrdd Iechyd yn ddigon trylwyr na’i fod wedi ateb yr holl faterion a godwyd gan Ms A yn ei llythyr cwyno.
Cysylltodd yr Ombwdsmon â’r Bwrdd Iechyd a chytunodd i wneud y pethau a ganlyn:
1) Ysgrifennu llythyr at Ms A yn rhoi sylw penodol i’r materion allweddol a godwyd ganddi o dan bob pennawd yn ei llythyr cwyno gwreiddiol.
2) Rhoi esboniad cywir a chyfredol iddi am y camgymeriad ar hysbysiad rhyddhau ei diweddar dad.
Dylai hyn gael ei gwblhau cyn pen 6 wythnos i ddyddiad fy llythyr penderfyniad.