Cwynodd Mrs A am y gofal a’r driniaeth a ddarparwyd i’w diweddar ŵr gan y Bwrdd Iechyd.
Canfu’r Ombwdsmon, yn dilyn ei ymateb cychwynnol i’r gŵyn, fod y Bwrdd Iechyd wedi cynnal cyfarfod â Mrs A ym mis Rhagfyr 2021 a’i fod wedi cytuno i ymchwilio ymhellach i’w phryderon. Galwodd y Bwrdd Iechyd Mrs A ar y ffôn y diwrnod ar ôl y cyfarfod ond ers hynny nid oedd wedi cynnig diweddariadau na gohebu â hi.
Felly, cytunodd y Bwrdd Iechyd i gwblhau’r camau a ganlyn o fewn 4 wythnos i benderfyniad yr Ombwdsmon:
a) Ymddiheuro am fethu â diweddaru Mrs A ers cyfarfod mis Rhagfyr 2021.
b) Darparu’r ymateb pellach i gŵyn i Mrs A.
c) Gwneud taliad o £125 i Mrs A am yr amser a’r drafferth a achoswyd wrth wneud ei chŵyn ac i gydnabod y methiannau cyfathrebu.