Dyddiad yr Adroddiad

28/03/2022

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202107150

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms X nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi ymateb i’r gŵyn yr oedd wedi ei chyflwyno ym mis Tachwedd 2019 am driniaeth ei chwaer yn yr ysbyty.
Yn fuan ar ôl i’r gŵyn gael ei chyflwyno i’r Ombwdsmon, fe wnaeth y Bwrdd Iechyd ymateb o’r diwedd i Ms X, gyda’r ymateb ysgrifenedig yn cynnwys cynnig o iawndal ariannol mewn perthynas â’r methiannau cydnabyddedig mewn gofal. Fodd bynnag, canfu’r Ombwdsmon fod y ffordd yr ymdriniwyd â’r gŵyn wedi bod yn annigonol o ran prydlondeb a chyfathrebu â’r achwynydd ynghylch yr oedi wrth ymateb. Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Bwrdd Iechyd roi ymddiheuriad ysgrifenedig i Ms X am ddelio’n wael â’r gŵyn, ynghyd â thaliad o £250 i gydnabod yr amser a’r drafferth y gellid bod wedi ei hosgoi. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i wneud hynny o fewn 10 diwrnod gwaith. Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod hyn yn setliad addas ac felly ni ymchwiliodd i’r gŵyn. Cwynodd Ms X nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi ymateb i’r gŵyn yr oedd wedi ei chyflwyno ym mis Tachwedd 2019 am driniaeth ei chwaer yn yr ysbyty.
Yn fuan ar ôl i’r gŵyn gael ei chyflwyno i’r Ombwdsmon, fe wnaeth y Bwrdd Iechyd ymateb o’r diwedd i Ms X, gyda’r ymateb ysgrifenedig yn cynnwys cynnig o iawndal ariannol mewn perthynas â’r methiannau cydnabyddedig mewn gofal. Fodd bynnag, canfu’r Ombwdsmon fod y ffordd yr ymdriniwyd â’r gŵyn wedi bod yn annigonol o ran prydlondeb a chyfathrebu â’r achwynydd ynghylch yr oedi wrth ymateb. Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Bwrdd Iechyd roi ymddiheuriad ysgrifenedig i Ms X am ddelio’n wael â’r gŵyn, ynghyd â thaliad o £250 i gydnabod yr amser a’r drafferth y gellid bod wedi ei hosgoi. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i wneud hynny o fewn 10 diwrnod gwaith. Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod hyn yn setliad addas ac felly ni ymchwiliodd i’r gŵyn.