Cwynodd Mrs X nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi ymateb i’r cwestiynau ychwanegol a ofynnwyd iddo yn dilyn ei ymateb Cam Dau a gyhoeddwyd ym mis Hydref.
Penderfynodd yr Ombwdsmon y dylai’r Bwrdd Iechyd roi ymateb ysgrifenedig pellach i Mrs X (o fewn 10 diwrnod gwaith) i roi sylw i’w chwestiynau ychwanegol. Dylai hefyd, er eglurder, roi trosolwg o elfennau cwyn Mrs X yr ymatebwyd iddynt yn barod. Yn olaf, dylai gynnig ymddiheuriad i Mrs X am yr anhwylustod, y dryswch a’r angen i gysylltu â’r Ombwdsmon.
Roedd yr Ombwdsmon o’r farn fod hyn yn ffordd briodol o ddatrys y gŵyn yn hytrach na chynnal ymchwiliad.