Cwynodd Miss X nad oedd y Feddygfa wedi ymateb i’w chŵyn ynghylch ei phryderon am ei salwch awtoimiwnedd cymhleth.
Penderfynodd yr Ombwdsmon y dylai’r Feddygfa roi ymateb ysgrifenedig i Miss X (o fewn 3 wythnos), a ddylai gynnwys ymddiheuriad am y dryswch wrth beidio â nodi bod ei neges e-bost yn gŵyn.
Roedd yr Ombwdsmon o’r farn fod hyn yn ffordd briodol o ddatrys y gŵyn yn hytrach na chynnal ymchwiliad.