Dyddiad yr Adroddiad

26/04/2022

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202100545

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Mrs A am y rheolaeth a’r gofal a gafodd gan dîm y Colon a’r Rhefr yn Ysbyty’r Tywysog Siarl (“yr Ysbyty”) ac yn enwedig Arbenigwr Nyrsio y Colon a’r Rhefr (“y CNS”) mewn perthynas â’i hanymataliaeth ysgarthol o fis Rhagfyr 2017 ymlaen. Holodd Mrs A hefyd a ddylai atgyfeiriad am farn lawfeddygol ynghylch ei anymataliaeth ysgarthol fod wedi digwydd yn gynt yn ogystal â thynnu sylw at ddiffygion mewn cyfathrebu clinigol, yn enwedig mewn perthynas â’r atgyfeiriad llawfeddygol. Yn olaf, roedd Mrs A yn anfodlon ag agweddau ar y modd yr ymdriniodd y Bwrdd Iechyd â’i chŵyn. Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad bod agweddau ar reolaeth a gofal anymataliaeth ysgarthol Mrs A, fel y’u cynhaliwyd gan dîm y colon a’r rhefr a’r CNS yn benodol, yn cyd-fynd â chanllawiau perthnasol y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (“NICE”). Fodd bynnag, canfu’r Ombwdsmon fethiannau gweinyddol, a oedd yn cynnwys cofnodion meddygol heb gyfeiriad at atgyfeiriadau i dîm amlddisgyblaethol llawr y pelfis. Cafodd hyn, ynghyd â’r fffaith nad oedd y cyfathrebu rhwng y CNS a thîm nyrsio y colon a’r rhefr â Mrs A bob amser mor effeithiol ag y gallai fod wedi bod, effaith hefyd. Ni allai’r Ombwdsmon ddiystyru y gallai atgyfeiriadau mwy amserol fod wedi arwain at geisio barn lawfeddygol golonig-refrol yn gynt. Canfu hefyd ddiffygion yn y ffordd yr ymdriniodd y Bwrdd Iechyd â’r gŵyn, a oedd yn cynnwys diffyg cadernid o ran yr ymateb. Cadarnhaodd yr Ombwdsmon gwynion Mrs A i raddau amrywiol. Canfu fod Mrs A wedi dioddef o anghyfiawnder, o ran yr effaith ar ansawdd bywyd Mrs A, yn ogystal â’r ansicrwydd a’r pryder a gafodd y diffygion yn sgil y ffordd y rheolwyd ac y gofalwyd am Mrs A. Roedd y ffaith bod Mrs A wedi gorfod cwyno ymhellach er mwyn cael atebion wedi ychwanegu at yr anghyfiawnder a achoswyd iddi.

Roedd argymhellion yr Ombwdsmon yn cynnwys ymddiheuriad i Mrs A, yn ogystal ag ad-dalu cost yr ymgynghoriad preifat a gafodd Mrs A gyda llawfeddyg y colon a’r rhefr. Gofynnwyd i’r Bwrdd Iechyd ddiweddaru Mrs A ynghylch ei hatgyfeiriad at lawfeddyg y colon a’r rhefr. Yn ogystal â hyn, gofynnwyd i’r Bwrdd Iechyd ystyried a/neu weithredu amrywiol argymhellion gweinyddol a gweithredol yn ymwneud â gwelliannau i’r drefn o gadw cofnodion, cyfathrebu a rheoli anymataliaeth ysgarthol yn glinigol.