Cwynodd Mrs X fod Cartrefi Conwy wedi gohirio’r gwaith o addasu trothwy drws fel y gallai ddefnyddio ei chadair olwyn yn ddiogel. Roedd hefyd wedi gwneud cwyn ffurfiol am broblem mynediad nad oedd wedi cael ymateb iddo (er iddi godi hyn gyda’r Ombwdsmon o’r blaen).
Yn ystod ymholiadau’r Ombwdsmon cwblhaodd Cartrefi Conwy y gwaith o osod ramp, ar sail adroddiad Therapi Galwedigaethol, i ddatrys problem mynediad. Gan fod angen asesiad wedi’i ddiweddaru o anghenion Mrs X, nid oedd yr Ombwdsmon yn rhy feirniadol o’r oedi a achoswyd yn sgil aros am adroddiad Therapi Galwedigaethol er ei fod yn cydnabod y rhwystredigaeth i Mrs X. Fodd bynnag, roedd oedi annerbyniol cyn i Cartrefi Conwy roi ymateb i gŵyn Mrs X – rai misoedd ar ôl iddi gwyno’n ffurfiol am y tro cyntaf – a thu allan i’r amserlenni a bennwyd yn ei bolisi cwynion ei hun.
Yn hytrach na chynnal ymchwiliad llawn, cytunodd Cartrefi Conwy i ymgymryd â’r canlynol i ddatrys y gŵyn, o fewn 1 mis:
• Cynnig ymddiheuriad ysgrifenedig i Mrs X am yr oedi cyn delio â’r gŵyn am fater mynediad ramp, ac ymateb yn ffurfiol iddo
• I gydnabod ei hamser a’i thrafferth a’r anghyfleustra, wrth barhau â’r mater gyda Cartrefi Conwy a’r Ombwdsmon (ddwywaith), cynnig iawndal o £125 i Mrs X.