Cwynodd Miss X am ofal a thriniaeth ei gŵr wrth ei dderbyn a’i ryddhau o’r ysbyty. Cwynodd hefyd fod nifer o gwestiynau heb eu hateb yr hoffai gael atebion iddynt.
Penderfynodd yr Ombwdsmon y dylai’r Bwrdd Iechyd roi ymateb ysgrifenedig pellach i Miss X (o fewn 3 wythnos) i fynd i’r afael â’i phryderon oedd yn weddill.
Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod hyn yn ddatrysiad priodol i’r gŵyn yn hytrach na chynnal ymchwiliad.