Cwynodd Ms X fod brechiad a roddwyd gan ddarparwr annibynnol yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe (“y Bwrdd Iechyd”) wedi achosi poen a llid am ei fod wedi’i roi’n anghywir, gan arwain at SIRVA (anaf i’r ysgwydd yn sgil rhoi brechiad).
I ddechrau, roedd y Bwrdd Iechyd wedi trefnu sgan MRI o ysgwydd Ms X, ond roedd hyn wedi’i ganslo. Roedd hyn yn golygu nad ymchwiliwyd yn briodol i’w chŵyn, a’i symptomau parhaus.
Cytunodd y Bwrdd Iechyd felly i ymgymryd â’r canlynol i setlo cwyn Ms X:
• Rhoddodd y Bwrdd Iechyd Ms X ar y rhestr frys i gael sgan MRI o’i hysgwydd i benderfynu oedd y boen yn gysylltiedig â’r pigiad.
• Yn seiliedig ar ganfyddiadau’r sgan MRI, bydd y Bwrdd Iechyd yn adolygu’r ymchwiliad a chanlyniad y gŵyn wreiddiol am y brechiad gan y darparwr annibynnol. Bydd yn ymateb yn ffurfiol i Ms X yn ysgrifenedig i esbonio canlyniad hyn iddi a ph’un ai a fu newid yng nghanlyniad ei chŵyn. Bydd yn gwneud hyn o fewn 6 wythnos i ddyddiad y llythyr hwn.