Cwynodd Mrs X fod y Cyngor wedi methu ag ymateb i’w chŵyn ynghylch cynnal a chadw coeden geirios ar eiddo’r Cyngor. Honnai ei bod yn achosi risg i iechyd a diogelwch a niwed i’w gardd.
Penderfynodd yr Ombwdsmon y dylai’r Cyngor roi ymateb ysgrifenedig i Mrs X (erbyn 27 Ebrill) i fynd i’r afael â’i chŵyn, a dylai hefyd gynnig ymddiheuriad i Mrs X am yr oedi yn ei ymateb.
Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod hyn yn ddatrysiad priodol i’r gŵyn yn hytrach na chynnal ymchwiliad.