Cwynodd Mrs H fod y Bwrdd Iechyd wedi methu â darparu gofal a thriniaeth briodol ar gyfer ei harddwrn a oedd wedi torri, ac nad oedd y clinigwyr wnaeth ei thrin wedi rhoi sylw priodol i’r pryderon a gododd ynglŷn â’i thriniaeth.
Noddodd yr Ombwdsmon fod anaf Mrs H wedi digwydd yn ystod pandemig Covid-19, pan oedd canllawiau ar waith yn cyfyngu llawdriniaethau i driniaethau i achub bywyd. Canfu’r Ombwdsmon fod y driniaeth gychwynnol i arddwrn Mrs H yn briodol, ac y byddai wedi bod yn rhesymol, hyd yn oed ar adegau arferol, i beidio â rhoi llawdriniaeth iddi. Canfu’r Ombwdsmon hefyd nad oedd dim tystiolaeth fod cymal arddwrn Mrs H wedi cael ei wthio o’i le pan gafodd ei ail-blastro, fel yr oedd hi’n credu. Credai’r Ombwdsmon ei bod yn bosibl i’r plastr fod wedi cael ei osod yn rhy dynn, gan achosi cyflenwad ocsigen gwael a difrod i’r meinwe, ond nad oedd yn bosibl gwybod beth ddigwyddodd gyda’r dystiolaeth a oedd ar gael, a dywedodd yr Ombwdsmon y gellid bod achos arall i symptomau gweddilliol Mrs H. Canfu’r Ombwdsmon, ac ystyried cyd-destun y pandemig, ei bod yn briodol i Mrs H orfod tynnu ei phlastr ei hun, a hefyd fod y gofal a ddarparwyd gan Lawfeddyg Ymgynghorol y’i gwelodd 7 mis ar ôl ei hanaf yn briodol. Ni chadarnhaodd yr Ombwdsmon y gŵyn.