Cwynodd Mr A am yr oedi cyn i’w thad, Mr B, gael sylw gan Ambiwlans Brys ar ôl iddo syrthio y tu allan i’w dŷ. Ar ôl derbyn Mr B i’r ysbyty, canfuwyd, drwy ymchwiliadau pellach fod Mr B wedi torri ei glun. Yn anffodus, nid oedd Mr B yn ddigon ffit i gael llawdriniaeth i gywiro ei glun gan iddo gael niwmonia a bu farw 12 diwrnod yn ddiweddarach. Fe wnaeth yr Ymddiriedolaeth yn ddiweddarach roi ymateb dros dro i gŵyn Mr A gan ddweud wrtho sut i gael gafael ar gyngor cyfreithiol am ddim dan gynllun gwneud iawn am gamweddau’r GIG gyda’r bwriad o gael cyd-gyfarwyddyd gan arbenigwr annibynnol ynglŷn ag a oedd Mr B wedi dioddef niwed o ganlyniad i fethiannau yn ei ofal, ac a oedd iawndal yn ddyledus. Ni ymatebodd Mr A i ymateb interim yr Ymddiriedolaeth i’r gŵyn cyn uwch-gyfeirio’n mater i’r Ombwdsmon.
Yn ystod y cam casglu tystiolaeth o ymchwiliad yr Ombwdsmon, awgrymai’r cyngor proffesiynol annibynnol a gafwyd y gellid priodoli dechreuad niwmonia Mr B i’r oedi cyn i’r Ambiwlans Brys gyrraedd. Rhannwyd y dystiolaeth â’r Ymddiriedolaeth a chytunwyd i ail-gyhoeddi ei ymateb interim i Mr A ac ailadrodd y cynnig o gyngor cyfreithiol am ddim i benderfynu ynglŷn â’r mater o achosiaeth. Pennodd yr Ombwdsmon gŵyn Mr A yn erbyn yr Ymddiriedolaeth ar sail y cytundeb hwnnw