Cwynodd Mrs P am yr asesiad a’r archwiliad a gafodd ei mab sy’n oedolyn, Mr Q, pan aeth i Adran Frys Ysbyty’r Tywysog Siarl ar 30 Hydref 2020. Dywedodd Mrs P na chafodd archwiliad trylwyr oherwydd, 4 diwrnod yn ddiweddarach, cafodd Mr Q ei dderbyn i ysbyty yn Lloegr ac ar ôl cael profion, gwelwyd bod ganddo friw ar ei ymennydd.
Canfu ymchwiliad yr Ombwdsmon, er i Mr Q cael asesiad cynhwysfawr yn yr Adran Frys, nad ymchwiliwyd ymhellach i’w symptomau o gur pen ac ansadrwydd ar ei draed. Pe gwnaed hynny, roedd yn fwy tebygol na pheidio y byddai Mr Q wedi cael sgan CT ynghynt ac y byddai’r briwiau ar ei ymennydd wedi cael eu diagnosio rai dyddiau ynghynt. Roedd hyn yn anghyfiawnder i Mr Q a chadarnhaodd yr Ombwdsmon gŵyn Mrs P.
Argymhellodd yr Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd yn ymddiheuro i Mrs P ac yn rhannu’r adroddiad gyda’r staff yn yr Adran Frys i amlygu methiant y gwasanaeth ac i atgoffa staff i fod yn effro i gleifion â symptomau fel Mr Q. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i weithredu’r argymhellion.