Dyddiad yr Adroddiad

06/05/2022

Achos yn Erbyn

Cymdeithas Tai Taf

Pwnc

Tai

Cyfeirnod Achos

202107204

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss X am ôl-daliadau rhent a oedd yn cronni ar ei chyfrif gyda Chymdeithas Tai Taf.

Nododd yr Ombwdsmon fod Miss X yn cael Budd-dal Tai nad oedd yn ddigonol i dalu am y costau dŵr a gwres ar gyfer ei chartref, felly roedd gofyn iddi dalu’r costau hyn. Canfu’r Ombwdsmon fod Cymdeithas Tai Taf wedi egluro’r mater wrth Miss X. Fodd bynnag, nid oeddent yn gallu trafod sefyllfa Miss X a’r cyfrif mewn mwy o fanylder gyda hi a dod ynghyd i ganfod ateb i leihau’r ddyled, oherwydd bod y llinellau cyfathrebu wedi methu.
Cysylltodd yr Ombwdsmon â Chymdeithas Tai Taf a chytunodd i drefnu cyfarfod gyda Miss X ac (os oedd hi’n dymuno) gynrychiolydd. Cytunodd Cymdeithas Tai Taf i gysylltu â Miss X cyn pen 10 diwrnod gwaith i gael dyddiadau pan oedd yn hwylus iddi fynd i gyfarfod.