Cwynodd Mrs A wrth Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf am y ffaith bod ei mam wedi cael ei derbyn i’r ysbyty am gyfnod o 3 mis gyda’r amheuaeth bod haint y llwybr wrinol arni. Dywedodd ei bod wedi gofyn am gael gweld ei mam, oherwydd ei lefelau straen a gofid, ond y gwrthodwyd ei chais. At hynny, dywedodd fod y Bwrdd Iechyd wedi methu â gwneud cais am Orchymyn Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid (“DoLS”).
Canfu’r Ombwdsmon nad oedd ymateb y Bwrdd Iechyd i gŵyn Mrs A yn rhoi sylw digonol i’r materion a gododd.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ddarparu i Mrs A ymateb cynhwysfawr pellach i’w chwyn, gan roi sylw’n benodol i’r oedi ymddangosiadol yn gwneud cais am Orchymyn DoLS a’i benderfyniad i beidio â chaniatáu i fam Mrs A gael ymwelwyr wyneb yn wyneb, cyn pen 20 diwrnod gwaith.